LLYFRAU PLANT gan 

Gareth William Jones

© Davis&Jones Consulting 2011. www.davisandjonesconsulting.com

Gwefan Gareth William Jones

Rhannu’r wefan:

Caru Nodyn

Caru Nodyn

Breuddwyd Monti

Breuddwyd Monti

Mewnwr a Maswr

Mewnwr a Maswr

01.12.09 - Mewnwr a Maswr

Cyfres o nofelau am anturiaethau efeilliaid sy'n hoff o rygbi yw Menwr a Maswr.  Mae wyth llyfr yn y gyfres, saith ohonynt wedi’i ysgrifennu gan Gareth.

<< Hafan


Dau Ddewis


Mae Llŷr a Llion eisoes wedi creu argraff dda ar dîm y pentref, Cenawon Nant Cadno, ac o'r diwedd daw cyfle iddynt wneud eu marc ar dîm yr ysgol. Ond mae dewis chwarae gêmau cyfrifiadur yn lle gwneud gwaith cartref Tomos Test tiwb yn peryglu'r cyfle hwnnw. Ac yng nghanol yr helbul, mae disgwyl i'r ddau wneud dewis anodd a allai siomi eu tad a'u ffrindiau...........



Tân ar Groen


Mae Islwyn Rowlands, cefnwr disglair y Sgwarnogod, a'i ffrindiau yn dân ar groen Milgi druan wrth godi cywilydd arno a gwneud hwyl am ei ben drwy gydol gêm. Ac aiff pethau o ddrwg i waeth iddo ef ac i weddill aelodau tîm Cenawon Nant Cadno ar ôl y gêm hefyd.




Siom, Syndod a Sws


Mae pethau'n ddrwg iawn rhwng Llŷr a Robert, y bachgen newydd sydd wedi cyrraedd o Ffrainc. Mae'n rhaid i'r ddau wynebu siom ac mae ambell i syndod a beth am y sws? Pwy o bawb fydd yn derbyn y gusan?




Triciau Taclau a Taith


"Sut gafodd taclau fel y Cenawon wahoddiad i fynd ar daith rygbi i dde Cymru? Pwy ydach chi'n feddwl ydach chi - y Llewod? Mi gewch chi'ch bwyta'n fwy gan dimau'r de!" Dyna farn rheolwr tîm arall yr ardal ond tybed?




Ffrainc Amdani


Ar ôl i Ifor Madog, tad Llŷr a Llion wrthod trefnu taith i Toulouse yn ne Ffrainc i'r Cenawon mae Llŷr yn ceisio perswadio ei gyd-chwaraewyr i drefnu taith eu hunain heb ganiatâd eu rhieni. Pwy fydd yn cytuno i ymuno ag o a pha mor lwyddiannus fydd y trefniadau?




Ysbryd y Maswr


Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd yn ystod y nos yn y clwb rygbi a does neb yn gwybod pwy neu beth sy'n achosi'r aflonyddwch. A fydd y bechgyn yn llwyddo i ddatrys y dirgelwch a beth fydd effaith hen bâr o esgidiau rygbi ar sgiliau chwarae Llŷr?




Gwisgo'r  Crys Coch


Breuddwyd pob chwaraewr rygbi yw chwarae dros ei wlad, a phan fo dau ddyn dieithr yn ymddangos yn ystod gêm y Cenawon ac Ebolion Rhyd-y Meirch, mae gobaith y daw'r freuddwyd yn wir i ambell un sydd ar y cae y diwrnod hwnnw. Ond i bwy?